Croeso i Ysgol Clywedog / Croeso i Ysgol Clywedog

Annwyl Riant

Dw i'n falch iawn o gael y cyfle hwn i gyflwyno Ysgol Clywedog i chi.
| Mae ein ysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae ein llwyddiant mewn arholiadau yn ddiweddar wedi parhau yn 2011. Rhoddodd canlyniadau gradd "A" eithriadol sglein ar lwyddiant ein myfyrwyr ni o bob gallu. Llwyddodd dau o'n myfyrwyr ni i ennill graddau 11 A/A* tra llwyddodd 36 o'n myfyrwyr gyflawni o leiaf 10 A *-C neu gymhwyster cyfatebol. Mae dros dri chwarter Blwyddyn 11 wedi ennill o leiaf un radd C a nodwedd arall ydy bod 94% o'r myfyrwyr wedi cyrraedd nod Lefel 1 . Mae ein henw da fel ysgol sy'n edrych ar ol ein myfyrwyr wedi'i hen gydnabod ac nid yw hi'n syndod felly ein bod yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus iawn.
| Mae ethos Ysgol Clywedog wedi'i seilio'n gadarn ar barch, sy'n cael ei hyrwyddo ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Mae ansawdd uchel ein gofal bugeiliol ynghyd a disgwyliadau uchel o ran ymddygiad myfyrwyr yn cyfrannu at awyrgylch hapus a diogel. Dyn ni yma yn Ysgol Clywedog yn ymfalchio yn ein myfyrwyr ac maent hwy yn eu tro yn ymfalchio yn yr ysgol.
Mae ein athrawon a staff cynorthwyol wedi ymroi i ddarparu cyfleoedd i bob un o'n myfyrwyr er mwyn sicrhau llwyddiant. Trwy ansawdd aruchel o ddysgu dyn ni'n anelu at ddarparu'r addysg gorau posibl; a thrwy hynny alluogi bod pob un o'n myfyrwyr ni yn cael y canlyniadau gorau posib. Yn ogysgol, mae ein adeiladau a cyfleusterau o ansawdd uchel ac yn darparu amodau da ar gyfer dysgu effeithlon.
Rydym yn annog cyfraniad llawn rhieni mewn partneriaeth cartref-ysgol llwyddiannus ac yn disgwyl eich cymorth i gynnal ein safonau yn yr ysgol.
| Pan fyddwch yn dewis ysgol uwchradd ar gyfer eich mab neu ferch , rydym yn deall pa mor bwysig yw cael cymaint o wybodaeth a sy'n bosibl. Gobeithiwn felly y byddwch yn gallu ymweld a ni yn ystod ein noson agored ar Dydd Mercher 28 Medi 2011, ond os nad yw hyn yn gyfleus, ffoniwch i drefnu apwyntiad i ymweld ag Ysgol Clywedog yn ystod y diwrnod ysgol. Yr wyf yn hyderus y byddwch yn canfod bod Ysgol Clywedog yn ysgol gefnogol ac ysgogol, gyda ffocws cryf ar gyflawniad. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi a'ch plentyn i'r ysgol.
; Yn gywir

Dr David J Kirby
Pennaeth


ffyddlon
Diweddaraf
-. Sesiynau adolygu Blwyddyn 11 ar gael ar adegau amrywiol yn ystod yr wythnos Mae'r rhestr lawn o bynciau ac amserau ar gael i'w lwytho i lawr trwy glicio YMA type="_moz"> type="_moz">

 

Gwybodaeth Technegol

Er mwyn gweld y wefan hon a'i chynnwys yn iawn,
dylech sicrhau bod y rhaglenni canlynol ar eich cyfrifiadur: